Hen Destament

Testament Newydd

Y Salmau 92:11-14 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

11. Ymhyfrydodd fy llygaid yng nghwymp fy ngelynion,a'm clustiau wrth glywed am y rhai drygionus a gododd yn f'erbyn.

12. Y mae'r cyfiawn yn blodeuo fel palmwydd,ac yn tyfu fel cedrwydd Lebanon.

13. Y maent wedi eu plannu yn nhÅ·'r ARGLWYDD,ac yn blodeuo yng nghynteddau ein Duw.

14. Rhônt ffrwyth hyd yn oed mewn henaint,a pharhânt yn wyrdd ac iraidd.

Darllenwch bennod gyflawn Y Salmau 92