Hen Destament

Testament Newydd

Y Salmau 90:5-9 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

5. Yr wyt yn eu sgubo ymaith fel breuddwyd;y maent fel gwellt yn adfywio yn y bore—

6. yn tyfu ac yn adfywio yn y bore,ond erbyn yr hwyr yn gwywo ac yn crino.

7. Oherwydd yr ydym ni yn darfod gan dy ddig,ac wedi'n brawychu gan dy gynddaredd.

8. Gosodaist ein camweddau o'th flaen,ein pechodau dirgel yng ngoleuni dy wyneb.

9. Y mae ein holl ddyddiau'n mynd heibio dan dy ddig,a'n blynyddoedd yn darfod fel ochenaid.

Darllenwch bennod gyflawn Y Salmau 90