Hen Destament

Testament Newydd

Y Salmau 90:1-8 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

1. Arglwydd, buost yn amddiffynfa i niymhob cenhedlaeth.

2. Cyn geni'r mynyddoedd,a chyn esgor ar y ddaear a'r byd,o dragwyddoldeb hyd dragwyddoldeb, ti sydd Dduw.

3. Yr wyt yn troi pobl yn ôl i'r llwch,ac yn dweud, “Trowch yn ôl, chwi feidrolion.”

4. Oherwydd y mae mil o flynyddoedd yn dy olwgfel doe sydd wedi mynd heibio,ac fel gwyliadwriaeth yn y nos.

5. Yr wyt yn eu sgubo ymaith fel breuddwyd;y maent fel gwellt yn adfywio yn y bore—

6. yn tyfu ac yn adfywio yn y bore,ond erbyn yr hwyr yn gwywo ac yn crino.

7. Oherwydd yr ydym ni yn darfod gan dy ddig,ac wedi'n brawychu gan dy gynddaredd.

8. Gosodaist ein camweddau o'th flaen,ein pechodau dirgel yng ngoleuni dy wyneb.

Darllenwch bennod gyflawn Y Salmau 90