Hen Destament

Testament Newydd

Y Salmau 89:5-18 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

5. Bydded i'r nefoedd foliannu dy ryfeddodau, O ARGLWYDD,a'th ffyddlondeb yng nghynulliad y rhai sanctaidd.

6. Oherwydd pwy yn y nefoedd a gymherir â'r ARGLWYDD?Pwy ymysg y duwiau sy'n debyg i'r ARGLWYDD,

7. yn Dduw a ofnir yng nghyngor y rhai sanctaidd,yn fawr ac ofnadwy goruwch pawb o'i amgylch?

8. O ARGLWYDD Dduw y lluoedd,pwy sydd nerthol fel tydi, O ARGLWYDD,gyda'th ffyddlondeb o'th amgylch?

9. Ti sy'n llywodraethu ymchwydd y môr;pan gyfyd ei donnau, yr wyt ti'n eu gostegu.

10. Ti a ddrylliodd Rahab yn gelain;gwasgeraist dy elynion â nerth dy fraich.

11. Eiddot ti yw'r nefoedd, a'r ddaear hefyd;ti a seiliodd y byd a'r cyfan sydd ynddo.

12. Ti a greodd ogledd a de;y mae Tabor a Hermon yn moliannu dy enw.

13. Y mae gennyt ti fraich nerthol;y mae dy law yn gref, dy ddeheulaw wedi ei chodi.

14. Cyfiawnder a barn yw sylfaen dy orsedd;y mae cariad a gwirionedd yn mynd o'th flaen.

15. Gwyn eu byd y bobl sydd wedi dysgu dy glodfori,sy'n rhodio, ARGLWYDD, yng ngoleuni dy wyneb,

16. sy'n gorfoleddu bob amser yn dy enw,ac yn llawenhau yn dy gyfiawnder.

17. Oherwydd ti yw gogoniant eu nerth,a thrwy dy ffafr di y dyrchefir ein corn.

18. Oherwydd y mae ein tarian yn eiddo i'r ARGLWYDD,a'n brenin i Sanct Israel.

Darllenwch bennod gyflawn Y Salmau 89