Hen Destament

Testament Newydd

Y Salmau 89:39-52 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

39. Yr wyt wedi dileu'r cyfamod â'th was,wedi halogi ei goron a'i thaflu i'r llawr.

40. Yr wyt wedi dryllio ei holl furiau,a gwneud ei geyrydd yn adfeilion.

41. Y mae pawb sy'n mynd heibio yn ei ysbeilio;aeth yn warth i'w gymdogion.

42. Dyrchefaist ddeheulaw ei wrthwynebwyr,a gwneud i'w holl elynion lawenhau.

43. Yn wir, troist yn ôl fin ei gleddyf,a pheidio â'i gynnal yn y frwydr.

44. Drylliaist ei deyrnwialen o'i law,a bwrw ei orsedd i'r llawr.

45. Yr wyt wedi byrhau dyddiau ei ieuenctid,ac wedi ei orchuddio â chywilydd.Sela

46. Am ba hyd, ARGLWYDD? A fyddi'n ymguddio am byth,a'th eiddigedd yn llosgi fel tân?

47. Cofia mor feidrol ydwyf fi;ai yn ofer y creaist yr holl bobloedd?

48. Pwy fydd byw heb weld marwolaeth?Pwy a arbed ei fywyd o afael Sheol?Sela

49. O Arglwydd, ple mae dy gariad gynt,a dyngaist yn dy ffyddlondeb i Ddafydd?

50. Cofia, O Arglwydd, ddirmyg dy was,fel yr wyf yn cario yn fy mynwes sarhad y bobloedd,

51. fel y bu i'th elynion, ARGLWYDD, ddirmygua gwawdio camre dy eneiniog.

52. Bendigedig fyddo'r ARGLWYDD am byth!Amen ac Amen.

Darllenwch bennod gyflawn Y Salmau 89