Hen Destament

Testament Newydd

Y Salmau 89:32-44 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

32. fe gosbaf eu pechodau â gwialen,a'u camweddau â fflangellau;

33. ond ni throf fy nghariad oddi wrtho,na phallu yn fy ffyddlondeb.

34. Ni thorraf fy nghyfamod,na newid gair a aeth o'm genau.

35. Unwaith am byth y tyngais i'm sancteiddrwydd,ac ni fyddaf yn twyllo Dafydd.

36. Fe barha ei linach am byth,a'i orsedd cyhyd â'r haul o'm blaen.

37. Bydd wedi ei sefydlu am byth fel y lleuad,yn dyst ffyddlon yn y nef.”Sela

38. Ond eto yr wyt wedi gwrthod, a throi heibio,a digio wrth dy eneiniog.

39. Yr wyt wedi dileu'r cyfamod â'th was,wedi halogi ei goron a'i thaflu i'r llawr.

40. Yr wyt wedi dryllio ei holl furiau,a gwneud ei geyrydd yn adfeilion.

41. Y mae pawb sy'n mynd heibio yn ei ysbeilio;aeth yn warth i'w gymdogion.

42. Dyrchefaist ddeheulaw ei wrthwynebwyr,a gwneud i'w holl elynion lawenhau.

43. Yn wir, troist yn ôl fin ei gleddyf,a pheidio â'i gynnal yn y frwydr.

44. Drylliaist ei deyrnwialen o'i law,a bwrw ei orsedd i'r llawr.

Darllenwch bennod gyflawn Y Salmau 89