Hen Destament

Testament Newydd

Y Salmau 89:30-39 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

30. Os bydd ei feibion yn gadael fy nghyfraith,a heb rodio yn fy marnau,

31. os byddant yn torri fy ordeiniadau,a heb gadw fy ngorchmynion,

32. fe gosbaf eu pechodau â gwialen,a'u camweddau â fflangellau;

33. ond ni throf fy nghariad oddi wrtho,na phallu yn fy ffyddlondeb.

34. Ni thorraf fy nghyfamod,na newid gair a aeth o'm genau.

35. Unwaith am byth y tyngais i'm sancteiddrwydd,ac ni fyddaf yn twyllo Dafydd.

36. Fe barha ei linach am byth,a'i orsedd cyhyd â'r haul o'm blaen.

37. Bydd wedi ei sefydlu am byth fel y lleuad,yn dyst ffyddlon yn y nef.”Sela

38. Ond eto yr wyt wedi gwrthod, a throi heibio,a digio wrth dy eneiniog.

39. Yr wyt wedi dileu'r cyfamod â'th was,wedi halogi ei goron a'i thaflu i'r llawr.

Darllenwch bennod gyflawn Y Salmau 89