Hen Destament

Testament Newydd

Y Salmau 89:3-14 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

3. Dywedaist, “Gwneuthum gyfamod â'm hetholedig,a thyngu wrth Ddafydd fy ngwas,

4. ‘Gwnaf dy had yn sefydlog am byth,a sicrhau dy orsedd dros y cenedlaethau.’ ”Sela

5. Bydded i'r nefoedd foliannu dy ryfeddodau, O ARGLWYDD,a'th ffyddlondeb yng nghynulliad y rhai sanctaidd.

6. Oherwydd pwy yn y nefoedd a gymherir â'r ARGLWYDD?Pwy ymysg y duwiau sy'n debyg i'r ARGLWYDD,

7. yn Dduw a ofnir yng nghyngor y rhai sanctaidd,yn fawr ac ofnadwy goruwch pawb o'i amgylch?

8. O ARGLWYDD Dduw y lluoedd,pwy sydd nerthol fel tydi, O ARGLWYDD,gyda'th ffyddlondeb o'th amgylch?

9. Ti sy'n llywodraethu ymchwydd y môr;pan gyfyd ei donnau, yr wyt ti'n eu gostegu.

10. Ti a ddrylliodd Rahab yn gelain;gwasgeraist dy elynion â nerth dy fraich.

11. Eiddot ti yw'r nefoedd, a'r ddaear hefyd;ti a seiliodd y byd a'r cyfan sydd ynddo.

12. Ti a greodd ogledd a de;y mae Tabor a Hermon yn moliannu dy enw.

13. Y mae gennyt ti fraich nerthol;y mae dy law yn gref, dy ddeheulaw wedi ei chodi.

14. Cyfiawnder a barn yw sylfaen dy orsedd;y mae cariad a gwirionedd yn mynd o'th flaen.

Darllenwch bennod gyflawn Y Salmau 89