Hen Destament

Testament Newydd

Y Salmau 89:23-26 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

23. Drylliaf ei elynion o'i flaen,a thrawaf y rhai sy'n ei gasáu.

24. Bydd fy ffyddlondeb a'm cariad gydag ef,ac yn fy enw i y dyrchefir ei gorn.

25. Gosodaf ei law ar y môr,a'i ddeheulaw ar yr afonydd.

26. Bydd yntau'n galw arnaf, ‘Fy nhad wyt ti,fy Nuw a chraig fy iachawdwriaeth.’

Darllenwch bennod gyflawn Y Salmau 89