Hen Destament

Testament Newydd

Y Salmau 89:20-33 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

20. Cefais Ddafydd, fy ngwas,a'i eneinio â'm holew sanctaidd;

21. bydd fy llaw yn gadarn gydag ef,a'm braich yn ei gryfhau.

22. Ni fydd gelyn yn drech nag ef,na'r drygionus yn ei ddarostwng.

23. Drylliaf ei elynion o'i flaen,a thrawaf y rhai sy'n ei gasáu.

24. Bydd fy ffyddlondeb a'm cariad gydag ef,ac yn fy enw i y dyrchefir ei gorn.

25. Gosodaf ei law ar y môr,a'i ddeheulaw ar yr afonydd.

26. Bydd yntau'n galw arnaf, ‘Fy nhad wyt ti,fy Nuw a chraig fy iachawdwriaeth.’

27. A gwnaf finnau ef yn gyntafanedig,yn uchaf o frenhinoedd y ddaear.

28. Cadwaf fy ffyddlondeb iddo hyd byth,a bydd fy nghyfamod ag ef yn sefydlog.

29. Rhof iddo linach am byth,a'i orsedd fel dyddiau'r nefoedd.

30. Os bydd ei feibion yn gadael fy nghyfraith,a heb rodio yn fy marnau,

31. os byddant yn torri fy ordeiniadau,a heb gadw fy ngorchmynion,

32. fe gosbaf eu pechodau â gwialen,a'u camweddau â fflangellau;

33. ond ni throf fy nghariad oddi wrtho,na phallu yn fy ffyddlondeb.

Darllenwch bennod gyflawn Y Salmau 89