16. sy'n gorfoleddu bob amser yn dy enw,ac yn llawenhau yn dy gyfiawnder.
17. Oherwydd ti yw gogoniant eu nerth,a thrwy dy ffafr di y dyrchefir ein corn.
18. Oherwydd y mae ein tarian yn eiddo i'r ARGLWYDD,a'n brenin i Sanct Israel.
19. Gynt lleferaist mewn gweledigaethwrth dy ffyddloniaid a dweud,“Gosodais goron ar un grymus,a dyrchafu un a ddewiswyd o blith y bobl.
20. Cefais Ddafydd, fy ngwas,a'i eneinio â'm holew sanctaidd;
21. bydd fy llaw yn gadarn gydag ef,a'm braich yn ei gryfhau.
22. Ni fydd gelyn yn drech nag ef,na'r drygionus yn ei ddarostwng.
23. Drylliaf ei elynion o'i flaen,a thrawaf y rhai sy'n ei gasáu.
24. Bydd fy ffyddlondeb a'm cariad gydag ef,ac yn fy enw i y dyrchefir ei gorn.