Hen Destament

Testament Newydd

Y Salmau 89:13-16 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

13. Y mae gennyt ti fraich nerthol;y mae dy law yn gref, dy ddeheulaw wedi ei chodi.

14. Cyfiawnder a barn yw sylfaen dy orsedd;y mae cariad a gwirionedd yn mynd o'th flaen.

15. Gwyn eu byd y bobl sydd wedi dysgu dy glodfori,sy'n rhodio, ARGLWYDD, yng ngoleuni dy wyneb,

16. sy'n gorfoleddu bob amser yn dy enw,ac yn llawenhau yn dy gyfiawnder.

Darllenwch bennod gyflawn Y Salmau 89