Hen Destament

Testament Newydd

Y Salmau 89:12-15 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

12. Ti a greodd ogledd a de;y mae Tabor a Hermon yn moliannu dy enw.

13. Y mae gennyt ti fraich nerthol;y mae dy law yn gref, dy ddeheulaw wedi ei chodi.

14. Cyfiawnder a barn yw sylfaen dy orsedd;y mae cariad a gwirionedd yn mynd o'th flaen.

15. Gwyn eu byd y bobl sydd wedi dysgu dy glodfori,sy'n rhodio, ARGLWYDD, yng ngoleuni dy wyneb,

Darllenwch bennod gyflawn Y Salmau 89