Hen Destament

Testament Newydd

Y Salmau 89:1-12 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

1. Canaf byth am dy gariad, O ARGLWYDD,ac â'm genau mynegaf dy ffyddlondeb dros y cenedlaethau;

2. oherwydd y mae dy gariad wedi ei sefydlu dros byth,a'th ffyddlondeb mor sicr â'r nefoedd.

3. Dywedaist, “Gwneuthum gyfamod â'm hetholedig,a thyngu wrth Ddafydd fy ngwas,

4. ‘Gwnaf dy had yn sefydlog am byth,a sicrhau dy orsedd dros y cenedlaethau.’ ”Sela

5. Bydded i'r nefoedd foliannu dy ryfeddodau, O ARGLWYDD,a'th ffyddlondeb yng nghynulliad y rhai sanctaidd.

6. Oherwydd pwy yn y nefoedd a gymherir â'r ARGLWYDD?Pwy ymysg y duwiau sy'n debyg i'r ARGLWYDD,

7. yn Dduw a ofnir yng nghyngor y rhai sanctaidd,yn fawr ac ofnadwy goruwch pawb o'i amgylch?

8. O ARGLWYDD Dduw y lluoedd,pwy sydd nerthol fel tydi, O ARGLWYDD,gyda'th ffyddlondeb o'th amgylch?

9. Ti sy'n llywodraethu ymchwydd y môr;pan gyfyd ei donnau, yr wyt ti'n eu gostegu.

10. Ti a ddrylliodd Rahab yn gelain;gwasgeraist dy elynion â nerth dy fraich.

11. Eiddot ti yw'r nefoedd, a'r ddaear hefyd;ti a seiliodd y byd a'r cyfan sydd ynddo.

12. Ti a greodd ogledd a de;y mae Tabor a Hermon yn moliannu dy enw.

Darllenwch bennod gyflawn Y Salmau 89