Hen Destament

Testament Newydd

Y Salmau 88:8-18 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

8. Gwnaethost i'm cydnabod bellhau oddi wrthyf,a'm gwneud yn ffiaidd iddynt.Yr wyf wedi fy nghaethiwo ac ni allaf ddianc;

9. y mae fy llygaid yn pylu gan gystudd.Galwaf arnat ti bob dydd, O ARGLWYDD,ac y mae fy nwylo'n ymestyn atat.

10. A wnei di ryfeddodau i'r meirw?A yw'r cysgodion yn codi i'th foliannu?Sela

11. A fynegir dy gariad yn y bedd,a'th wirionedd yn nhir Abadon?

12. A yw dy ryfeddodau'n wybyddus yn y tywyllwch,a'th fuddugoliaethau yn nhir angof?

13. Ond yr wyf fi yn llefain arnat ti am gymorth, O ARGLWYDD,ac yn y bore daw fy ngweddi atat.

14. O ARGLWYDD, pam yr wyt yn fy ngwrthod,ac yn cuddio dy wyneb oddi wrthyf?

15. Anghenus wyf, ac ar drengi o'm hieuenctid;dioddefais dy ddychrynfeydd, ac yr wyf mewn dryswch.

16. Aeth dy ddigofaint drosof,ac y mae dy ymosodiadau yn fy nifetha.

17. Y maent yn f'amgylchu fel llif trwy'r dydd,ac yn cau'n gyfan gwbl amdanaf.

18. Gwnaethost i gâr a chyfaill bellhau oddi wrthyf,a thywyllwch yw fy nghydnabod.

Darllenwch bennod gyflawn Y Salmau 88