Hen Destament

Testament Newydd

Y Salmau 88:1-9 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

1. O ARGLWYDD, Duw fy iachawdwriaeth,liw dydd galwaf arnat,gyda'r nos deuaf atat.

2. Doed fy ngweddi hyd atat,tro dy glust at fy llef.

3. Yr wyf yn llawn helbulon,ac y mae fy mywyd yn ymyl Sheol.

4. Ystyriwyd fi gyda'r rhai sy'n disgyn i'r pwll,ac euthum fel un heb nerth,

5. fel un wedi ei adael gyda'r meirw,fel y lladdedigion sy'n gorffwys mewn bedd—rhai nad wyt yn eu cofio bellacham eu bod wedi eu torri ymaith o'th afael.

6. Gosodaist fi yn y pwll isod,yn y mannau tywyll a'r dyfnderau.

7. Daeth dy ddigofaint yn drwm arnaf,a llethaist fi â'th holl donnau.Sela

8. Gwnaethost i'm cydnabod bellhau oddi wrthyf,a'm gwneud yn ffiaidd iddynt.Yr wyf wedi fy nghaethiwo ac ni allaf ddianc;

9. y mae fy llygaid yn pylu gan gystudd.Galwaf arnat ti bob dydd, O ARGLWYDD,ac y mae fy nwylo'n ymestyn atat.

Darllenwch bennod gyflawn Y Salmau 88