3. Ti yw fy Nuw; bydd drugarog wrthyf, O Arglwydd,oherwydd arnat ti y gwaeddaf trwy'r dydd.
4. Llawenha enaid dy was,oherwydd atat ti, Arglwydd, y dyrchafaf fy enaid.
5. Yr wyt ti, Arglwydd, yn dda a maddeugar,ac yn llawn trugaredd i bawb sy'n galw arnat.
6. Clyw, O ARGLWYDD, fy ngweddi,a gwrando ar fy ymbil.
7. Yn nydd fy nghyfyngder galwaf arnat,oherwydd yr wyt ti yn fy ateb.
8. Nid oes neb fel ti ymhlith y duwiau, O Arglwydd,ac nid oes gweithredoedd fel dy rai di.
9. Bydd yr holl genhedloedd a wnaethost yn dodac yn ymgrymu o'th flaen, O Arglwydd,ac yn anrhydeddu dy enw.
10. Oherwydd yr wyt ti yn fawr ac yn gwneud rhyfeddodau;ti yn unig sydd Dduw.
11. O ARGLWYDD, dysg i mi dy ffordd,imi rodio yn dy wirionedd;rho imi galon unplyg i ofni dy enw.
12. Clodforaf di â'm holl galon, O Arglwydd fy Nuw,ac anrhydeddaf dy enw hyd byth.
13. Oherwydd mawr yw dy ffyddlondeb tuag ataf,a gwaredaist fy mywyd o Sheol isod.