Hen Destament

Testament Newydd

Y Salmau 84:4-11 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

4. Gwyn eu byd y rhai sy'n trigo yn dy dŷ,yn canu mawl i ti'n wastadol.

5. Gwyn eu byd y rhai yr wyt ti'n noddfa iddynt,a ffordd y pererinion yn eu calon.

6. Wrth iddynt fynd trwy ddyffryn Bacafe'i cânt yn ffynnon;bydd y glaw cynnar yn ei orchuddio â bendith.

7. Ânt o nerth i nerth,a bydd Duw y duwiau yn ymddangos yn Seion.

8. O ARGLWYDD Dduw'r Lluoedd, clyw fy ngweddi;gwrando arnaf, O Dduw Jacob.Sela

9. Edrych ar ein tarian, O Dduw;rho ffafr i'th eneiniog.

10. Gwell yw diwrnod yn dy gynteddau dina mil gartref;gwell sefyll wrth y drws yn nhŷ fy Nuwna thrigo ym mhebyll drygioni.

11. Oherwydd haul a tharian yw'r ARGLWYDD Dduw;rhydd ras ac anrhydedd.Nid atal yr ARGLWYDD unrhyw ddaionioddi wrth y rhai sy'n rhodio'n gywir.

Darllenwch bennod gyflawn Y Salmau 84