Hen Destament

Testament Newydd

Y Salmau 81:2-16 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

2. Rhowch gân a chanu'r tympan,y delyn fwyn a'r nabl.

3. Canwch utgorn ar y lleuad newydd,ar y lleuad lawn, ar ddydd ein gŵyl.

4. Oherwydd y mae hyn yn ddeddf yn Israel,yn rheol gan Dduw Jacob,

5. wedi ei roi'n orchymyn i Joseffpan ddaeth allan o wlad yr Aifft.Clywaf iaith nad wyf yn ei hadnabod.

6. Ysgafnheais y baich ar dy ysgwydd,a rhyddhau dy ddwylo oddi wrth y basgedi.

7. Pan waeddaist mewn cyfyngder, gwaredais di,ac atebais di yn ddirgel yn y taranau;profais di wrth ddyfroedd Meriba.Sela

8. Gwrando, fy mhobl, a dygaf dystiolaeth yn dy erbyn.O na fyddit yn gwrando arnaf fi, Israel!

9. Na fydded gennyt dduw estron,a phaid ag ymostwng i dduw dieithr.

10. Myfi yw'r ARGLWYDD dy Dduw,a'th ddygodd i fyny o'r Aifft;agor dy geg, ac fe'i llanwaf.

11. Ond ni wrandawodd fy mhobl ar fy llais,ac nid oedd Israel yn fodlon arnaf;

12. felly anfonais hwy ymaith yn eu cyndynrwyddi wneud fel yr oeddent yn dymuno.

13. “O na fyddai fy mhobl yn gwrando arnaf,ac na fyddai Israel yn rhodio yn fy ffyrdd!

14. Byddwn ar fyrder yn darostwng eu gelynion,ac yn troi fy llaw yn erbyn eu gwrthwynebwyr.”

15. Byddai'r rhai sy'n casáu'r ARGLWYDD yn ymgreinio o'i flaen,a dyna eu tynged am byth.

16. Byddwn yn dy fwydo â'r ŷd gorau,ac yn dy ddigoni â mêl o'r graig.

Darllenwch bennod gyflawn Y Salmau 81