1. Canwch fawl i Dduw, ein nerth;bloeddiwch mewn gorfoledd i Dduw Jacob.
2. Rhowch gân a chanu'r tympan,y delyn fwyn a'r nabl.
3. Canwch utgorn ar y lleuad newydd,ar y lleuad lawn, ar ddydd ein gŵyl.
4. Oherwydd y mae hyn yn ddeddf yn Israel,yn rheol gan Dduw Jacob,
5. wedi ei roi'n orchymyn i Joseffpan ddaeth allan o wlad yr Aifft.Clywaf iaith nad wyf yn ei hadnabod.
6. Ysgafnheais y baich ar dy ysgwydd,a rhyddhau dy ddwylo oddi wrth y basgedi.
7. Pan waeddaist mewn cyfyngder, gwaredais di,ac atebais di yn ddirgel yn y taranau;profais di wrth ddyfroedd Meriba.Sela