Hen Destament

Testament Newydd

Y Salmau 81:1-10 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

1. Canwch fawl i Dduw, ein nerth;bloeddiwch mewn gorfoledd i Dduw Jacob.

2. Rhowch gân a chanu'r tympan,y delyn fwyn a'r nabl.

3. Canwch utgorn ar y lleuad newydd,ar y lleuad lawn, ar ddydd ein gŵyl.

4. Oherwydd y mae hyn yn ddeddf yn Israel,yn rheol gan Dduw Jacob,

5. wedi ei roi'n orchymyn i Joseffpan ddaeth allan o wlad yr Aifft.Clywaf iaith nad wyf yn ei hadnabod.

6. Ysgafnheais y baich ar dy ysgwydd,a rhyddhau dy ddwylo oddi wrth y basgedi.

7. Pan waeddaist mewn cyfyngder, gwaredais di,ac atebais di yn ddirgel yn y taranau;profais di wrth ddyfroedd Meriba.Sela

8. Gwrando, fy mhobl, a dygaf dystiolaeth yn dy erbyn.O na fyddit yn gwrando arnaf fi, Israel!

9. Na fydded gennyt dduw estron,a phaid ag ymostwng i dduw dieithr.

10. Myfi yw'r ARGLWYDD dy Dduw,a'th ddygodd i fyny o'r Aifft;agor dy geg, ac fe'i llanwaf.

Darllenwch bennod gyflawn Y Salmau 81