Hen Destament

Testament Newydd

Y Salmau 80:1-7 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

1. Gwrando, O fugail Israel,sy'n arwain Joseff fel diadell.

2. Ti sydd wedi dy orseddu ar y cerwbiaid,disgleiria i Effraim, Benjamin a Manasse.Gwna i'th nerth gyffroi,a thyrd i'n gwaredu.

3. Adfer ni, O Dduw;bydded llewyrch dy wyneb arnom, a gwareder ni.

4. O ARGLWYDD Dduw y Lluoedd,am ba hyd y byddi'n ddig wrth weddïau dy bobl?

5. Yr wyt wedi eu bwydo â bara dagrau,a'u diodi â mesur llawn o ddagrau.

6. Gwnaethost ni'n ddirmyg i'n cymdogion,ac y mae ein gelynion yn ein gwawdio.

7. O Dduw'r Lluoedd, adfer ni;bydded llewyrch dy wyneb arnom, a gwareder ni.

Darllenwch bennod gyflawn Y Salmau 80