Hen Destament

Testament Newydd

Y Salmau 8:1-8 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

1. O ARGLWYDD, ein Iôr, mor ardderchog yw dy enw ar yr holl ddaear!Gosodaist dy ogoniant uwch y nefoedd,

2. codaist amddiffyn rhag dy elyniono enau babanod a phlant sugno,a thawelu'r gelyn a'r dialydd.

3. Pan edrychaf ar y nefoedd, gwaith dy fysedd,y lloer a'r sêr, a roddaist yn eu lle,

4. beth yw meidrolyn, iti ei gofio,a'r teulu dynol, iti ofalu amdano?

5. Eto gwnaethost ef ychydig islaw duwa'i goroni â gogoniant ac anrhydedd.

6. Rhoist iddo awdurdod ar waith dy ddwylo,a gosod popeth dan ei draed:

7. defaid ac ychen i gyd,yr anifeiliaid gwylltion hefyd,

8. adar y nefoedd, a physgod y môr,a phopeth sy'n tramwyo llwybrau'r dyfroedd.

Darllenwch bennod gyflawn Y Salmau 8