Hen Destament

Testament Newydd

Y Salmau 79:1-13 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

1. O Dduw, daeth y cenhedloedd i'th etifeddiaeth,a halogi dy deml sanctaidd,a gwneud Jerwsalem yn adfeilion.

2. Rhoesant gyrff dy weisionyn fwyd i adar yr awyr,a chnawd dy ffyddloniaid i'r bwystfilod.

3. Y maent wedi tywallt gwaed fel dŵro amgylch Jerwsalem,ac nid oes neb i'w claddu.

4. Aethom yn watwar i'n cymdogion,yn wawd a dirmyg i'r rhai o'n cwmpas.

5. Am ba hyd, ARGLWYDD? A fyddi'n ddig am byth?A yw dy eiddigedd i losgi fel tân?

6. Tywallt dy lid ar y cenhedloeddnad ydynt yn dy adnabod,ac ar y teyrnasoeddnad ydynt yn galw ar dy enw,

7. am iddynt ysu Jacoba difetha ei drigfan.

8. Paid â dal yn ein herbyn ni ddrygioni ein hynafiaid,ond doed dy dosturi atom ar frys,oherwydd fe'n darostyngwyd yn llwyr.

9. Cymorth ni, O Dduw ein hiachawdwriaeth,oherwydd anrhydedd dy enw;gwared ni, a maddau ein pechodauer mwyn dy enw.

10. Pam y caiff y cenhedloedd ddweud,“Ple mae eu Duw?”Dysger y cenhedloedd yn ein gŵyddbeth yw dy ddialedd am waed tywalltedig dy weision.

11. Doed ochneidio'r carcharorion hyd atat,ac yn dy nerth mawr arbed y rhai oedd i farw.

12. Taro'n ôl seithwaith i'n cymdogion, a hynny i'r byw,y gwatwar a wnânt wrth dy ddifrïo, O Arglwydd.

13. Yna, byddwn ni, dy bobl a phraidd dy borfa,yn dy foliannu am byth,ac yn adrodd dy foliant dros y cenedlaethau.

Darllenwch bennod gyflawn Y Salmau 79