Hen Destament

Testament Newydd

Y Salmau 78:67-72 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

67. Gwrthododd babell Joseff,ac ni ddewisodd lwyth Effraim;

68. ond dewisodd lwyth Jwda,a Mynydd Seion y mae'n ei garu.

69. Cododd ei gysegr cyn uched â'r nefoedd,a'i sylfeini, fel y ddaear, am byth.

70. Dewisodd Ddafydd yn was iddo,a'i gymryd o'r corlannau defaid;

71. o fod yn gofalu am y mamogiaiddaeth ag ef i fugeilio'i bobl Jacob,ac Israel ei etifeddiaeth.

72. Bugeiliodd hwy â chalon gywir,a'u harwain â llaw ddeheuig.

Darllenwch bennod gyflawn Y Salmau 78