Hen Destament

Testament Newydd

Y Salmau 78:46-57 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

46. Rhoes eu cnwd i'r lindys,a ffrwyth eu llafur i'r locust.

47. Dinistriodd eu gwinwydd â chenllysg,a'u sycamorwydd â glawogydd.

48. Rhoes eu gwartheg i'r haint,a'u diadell i'r plâu.

49. Anfonodd ei lid mawr arnynt,a hefyd ddicter, cynddaredd a gofid—cwmni o negeswyr gwae—

50. a rhoes ryddid i'w lidiowgrwydd.Nid arbedodd hwy rhag marwolaethond rhoi eu bywyd i'r haint.

51. Trawodd holl rai cyntafanedig yr Aifft,blaenffrwyth eu nerth ym mhebyll Ham.

52. Yna dygodd allan ei bobl fel defaid,a'u harwain fel praidd trwy'r anialwch;

53. arweiniodd hwy'n ddiogel heb fod arnynt ofn,ond gorchuddiodd y môr eu gelynion.

54. Dygodd hwy i'w dir sanctaidd,i'r mynydd a goncrodd â'i ddeheulaw.

55. Gyrrodd allan genhedloedd o'u blaenau;rhannodd eu tir yn etifeddiaeth,a gwneud i lwythau Israel fyw yn eu pebyll.

56. Eto, profasant y Duw Goruchaf a gwrthryfela yn ei erbyn,ac nid oeddent yn cadw ei ofynion.

57. Troesant a mynd yn fradwrus fel eu hynafiaid;yr oeddent mor dwyllodrus â bwa llac.

Darllenwch bennod gyflawn Y Salmau 78