Hen Destament

Testament Newydd

Y Salmau 78:21-40 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

21. Felly, pan glywodd yr ARGLWYDD hyn, digiodd;cyneuwyd tân yn erbyn Jacob,a chododd llid yn erbyn Israel,

22. am nad oeddent yn credu yn Nuw,nac yn ymddiried yn ei waredigaeth.

23. Yna, rhoes orchymyn i'r ffurfafen uchod,ac agorodd ddrysau'r nefoedd;

24. glawiodd arnynt fanna i'w fwyta,a rhoi iddynt ŷd y nefoedd;

25. yr oedd pobl yn bwyta bara angylion,a rhoes iddynt fwyd mewn llawnder.

26. Gwnaeth i ddwyreinwynt chwythu yn y nefoedd,ac â'i nerth dygodd allan ddeheuwynt;

27. glawiodd arnynt gig fel llwch,ac adar hedegog fel tywod ar lan y môr;

28. parodd iddynt ddisgyn yng nghanol eu gwersyll,o gwmpas eu pebyll ym mhobman.

29. Bwytasant hwythau a chawsant ddigon,oherwydd rhoes iddynt eu dymuniad.

30. Ond cyn iddynt ddiwallu eu chwant,a'r bwyd yn dal yn eu genau,

31. cododd dig Duw yn eu herbyn,a lladdodd y rhai mwyaf graenus ohonynt,a darostwng rhai dewisol Israel.

32. Er hyn, yr oeddent yn dal i bechu,ac nid oeddent yn credu yn ei ryfeddodau.

33. Felly gwnaeth i'w hoes ddarfod ar amrantiad,a'u blynyddoedd mewn dychryn.

34. Pan oedd yn eu taro, yr oeddent yn ei geisio;yr oeddent yn edifarhau ac yn chwilio am Dduw.

35. Yr oeddent yn cofio mai Duw oedd eu craig,ac mai'r Duw Goruchaf oedd eu gwaredydd.

36. Ond yr oeddent yn rhagrithio â'u genau,ac yn dweud celwydd â'u tafodau;

37. nid oedd eu calon yn glynu wrtho,ac nid oeddent yn ffyddlon i'w gyfamod.

38. Eto, bu ef yn drugarog, maddeuodd eu trosedd,ac ni ddistrywiodd hwy;dro ar ôl tro ataliodd ei ddig,a chadw ei lid rhag codi.

39. Cofiodd mai cnawd oeddent,gwynt sy'n mynd heibio heb ddychwelyd.

40. Mor aml y bu iddynt wrthryfela yn ei erbyn yn yr anialwch,a pheri gofid iddo yn y diffeithwch!

Darllenwch bennod gyflawn Y Salmau 78