2. Agoraf fy ngenau mewn dihareb,a llefaraf ddamhegion o'r dyddiau gynt,
3. pethau a glywsom ac a wyddom,ac a adroddodd ein hynafiaid wrthym.
4. Ni chuddiwn hwy oddi wrth eu disgynyddion,ond adroddwn wrth y genhedlaeth sy'n dodweithredoedd gogoneddus yr ARGLWYDD, a'i rym,a'r pethau rhyfeddol a wnaeth.
5. Fe roes ddyletswydd ar Jacob,a gosod cyfraith yn Israel,a rhoi gorchymyn i'n hynafiaid,i'w dysgu i'w plant;
6. er mwyn i'r to sy'n codi wybod,ac i'r plant sydd heb eu geni etoddod ac adrodd wrth eu plant;
7. er mwyn iddynt roi eu ffydd yn Nuw,a pheidio ag anghofio gweithredoedd Duw,ond cadw ei orchmynion;
8. rhag iddynt fod fel eu tadauyn genhedlaeth gyndyn a gwrthryfelgar,yn genhedlaeth â'i chalon heb fod yn gadarna'i hysbryd heb fod yn ffyddlon i Dduw.
9. Bu i feibion Effraim, gwŷr arfog a saethwyr bwa,droi yn eu holau yn nydd brwydr,
10. am iddynt beidio â chadw cyfamod Duw,a gwrthod rhodio yn ei gyfraith;
11. am iddynt anghofio ei weithredoedda'r rhyfeddodau a ddangosodd iddynt.
12. Gwnaeth bethau rhyfeddol yng ngŵydd eu hynafiaidyng ngwlad yr Aifft, yn nhir Soan;
13. rhannodd y môr a'u dwyn trwyddo,a gwneud i'r dŵr sefyll fel argae.
14. Arweiniodd hwy â chwmwl y dydd,a thrwy'r nos â thân disglair.