Hen Destament

Testament Newydd

Y Salmau 78:12-19 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

12. Gwnaeth bethau rhyfeddol yng ngŵydd eu hynafiaidyng ngwlad yr Aifft, yn nhir Soan;

13. rhannodd y môr a'u dwyn trwyddo,a gwneud i'r dŵr sefyll fel argae.

14. Arweiniodd hwy â chwmwl y dydd,a thrwy'r nos â thân disglair.

15. Holltodd greigiau yn yr anialwch,a gwneud iddynt yfed o'r dyfroedd di-baid;

16. dygodd ffrydiau allan o graig,a pheri i ddŵr lifo fel afonydd.

17. Ond yr oeddent yn dal i bechu yn ei erbyn,ac i herio'r Goruchaf yn yr anialwch,

18. a rhoi prawf ar Dduw yn eu calonnautrwy ofyn bwyd yn ôl eu blys.

19. Bu iddynt lefaru yn erbyn Duw a dweud,“A all Duw arlwyo bwrdd yn yr anialwch?

Darllenwch bennod gyflawn Y Salmau 78