Hen Destament

Testament Newydd

Y Salmau 78:10-18 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

10. am iddynt beidio â chadw cyfamod Duw,a gwrthod rhodio yn ei gyfraith;

11. am iddynt anghofio ei weithredoedda'r rhyfeddodau a ddangosodd iddynt.

12. Gwnaeth bethau rhyfeddol yng ngŵydd eu hynafiaidyng ngwlad yr Aifft, yn nhir Soan;

13. rhannodd y môr a'u dwyn trwyddo,a gwneud i'r dŵr sefyll fel argae.

14. Arweiniodd hwy â chwmwl y dydd,a thrwy'r nos â thân disglair.

15. Holltodd greigiau yn yr anialwch,a gwneud iddynt yfed o'r dyfroedd di-baid;

16. dygodd ffrydiau allan o graig,a pheri i ddŵr lifo fel afonydd.

17. Ond yr oeddent yn dal i bechu yn ei erbyn,ac i herio'r Goruchaf yn yr anialwch,

18. a rhoi prawf ar Dduw yn eu calonnautrwy ofyn bwyd yn ôl eu blys.

Darllenwch bennod gyflawn Y Salmau 78