Hen Destament

Testament Newydd

Y Salmau 78:10-14 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

10. am iddynt beidio â chadw cyfamod Duw,a gwrthod rhodio yn ei gyfraith;

11. am iddynt anghofio ei weithredoedda'r rhyfeddodau a ddangosodd iddynt.

12. Gwnaeth bethau rhyfeddol yng ngŵydd eu hynafiaidyng ngwlad yr Aifft, yn nhir Soan;

13. rhannodd y môr a'u dwyn trwyddo,a gwneud i'r dŵr sefyll fel argae.

14. Arweiniodd hwy â chwmwl y dydd,a thrwy'r nos â thân disglair.

Darllenwch bennod gyflawn Y Salmau 78