Hen Destament

Testament Newydd

Y Salmau 77:4-19 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

4. Cedwaist fy llygaid rhag cau;fe'm syfrdanwyd, ac ni allaf siarad.

5. Af yn ôl i'r dyddiau gynta chofio am y blynyddoedd a fu;

6. meddyliaf ynof fy hun yn y nos,myfyriaf, a'm holi fy hunan,

7. “A wrthyd yr Arglwydd am byth,a pheidio â gwneud ffafr mwyach?

8. A yw ei ffyddlondeb wedi darfod yn llwyr,a'i addewid wedi ei hatal am genedlaethau?

9. A yw Duw wedi anghofio trugarhau?A yw yn ei lid wedi cloi ei dosturi?”Sela

10. Yna dywedais, “Hyn yw fy ngofid:A yw deheulaw'r Goruchaf wedi pallu?”

11. “Galwaf i gof weithredoedd yr ARGLWYDD,a chofio am dy ryfeddodau gynt.

12. Meddyliaf am dy holl waith,a myfyriaf am dy weithredoedd.

13. O Dduw, sanctaidd yw dy ffordd;pa dduw sydd fawr fel ein Duw ni?

14. Ti yw'r Duw sy'n gwneud pethau rhyfeddol;dangosaist dy rym ymhlith y bobloedd.

15. Â'th fraich gwaredaist dy bobl,disgynyddion Jacob a Joseff.Sela

16. “Gwelodd y dyfroedd di, O Dduw,gwelodd y dyfroedd di ac arswydo;yn wir, yr oedd y dyfnder yn crynu.

17. Tywalltodd y cymylau ddŵr,ac yr oedd y ffurfafen yn taranu;fflachiodd dy saethau ar bob llaw.

18. Yr oedd sŵn dy daranau yn y corwynt,goleuodd dy fellt y byd;ysgydwodd y ddaear a chrynu.

19. Aeth dy ffordd drwy'r môr,a'th lwybr trwy ddyfroedd nerthol;ond ni welwyd ôl dy gamau.

Darllenwch bennod gyflawn Y Salmau 77