Hen Destament

Testament Newydd

Y Salmau 77:10-20 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

10. Yna dywedais, “Hyn yw fy ngofid:A yw deheulaw'r Goruchaf wedi pallu?”

11. “Galwaf i gof weithredoedd yr ARGLWYDD,a chofio am dy ryfeddodau gynt.

12. Meddyliaf am dy holl waith,a myfyriaf am dy weithredoedd.

13. O Dduw, sanctaidd yw dy ffordd;pa dduw sydd fawr fel ein Duw ni?

14. Ti yw'r Duw sy'n gwneud pethau rhyfeddol;dangosaist dy rym ymhlith y bobloedd.

15. Â'th fraich gwaredaist dy bobl,disgynyddion Jacob a Joseff.Sela

16. “Gwelodd y dyfroedd di, O Dduw,gwelodd y dyfroedd di ac arswydo;yn wir, yr oedd y dyfnder yn crynu.

17. Tywalltodd y cymylau ddŵr,ac yr oedd y ffurfafen yn taranu;fflachiodd dy saethau ar bob llaw.

18. Yr oedd sŵn dy daranau yn y corwynt,goleuodd dy fellt y byd;ysgydwodd y ddaear a chrynu.

19. Aeth dy ffordd drwy'r môr,a'th lwybr trwy ddyfroedd nerthol;ond ni welwyd ôl dy gamau.

20. Arweiniaist dy bobl fel praidd,trwy law Moses ac Aaron.”

Darllenwch bennod gyflawn Y Salmau 77