Hen Destament

Testament Newydd

Y Salmau 77:10-15 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

10. Yna dywedais, “Hyn yw fy ngofid:A yw deheulaw'r Goruchaf wedi pallu?”

11. “Galwaf i gof weithredoedd yr ARGLWYDD,a chofio am dy ryfeddodau gynt.

12. Meddyliaf am dy holl waith,a myfyriaf am dy weithredoedd.

13. O Dduw, sanctaidd yw dy ffordd;pa dduw sydd fawr fel ein Duw ni?

14. Ti yw'r Duw sy'n gwneud pethau rhyfeddol;dangosaist dy rym ymhlith y bobloedd.

15. Â'th fraich gwaredaist dy bobl,disgynyddion Jacob a Joseff.Sela

Darllenwch bennod gyflawn Y Salmau 77