Hen Destament

Testament Newydd

Y Salmau 77:1-13 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

1. Gwaeddais yn uchel ar Dduw,yn uchel ar Dduw, a chlywodd fi.

2. Yn nydd fy nghyfyngder ceisiais yr Arglwydd,ac yn y nos estyn fy nwylo'n ddiflino;nid oedd cysuro ar fy enaid.

3. Pan feddyliaf am Dduw, yr wyf yn cwyno;pan fyfyriaf, fe balla f'ysbryd.Sela

4. Cedwaist fy llygaid rhag cau;fe'm syfrdanwyd, ac ni allaf siarad.

5. Af yn ôl i'r dyddiau gynta chofio am y blynyddoedd a fu;

6. meddyliaf ynof fy hun yn y nos,myfyriaf, a'm holi fy hunan,

7. “A wrthyd yr Arglwydd am byth,a pheidio â gwneud ffafr mwyach?

8. A yw ei ffyddlondeb wedi darfod yn llwyr,a'i addewid wedi ei hatal am genedlaethau?

9. A yw Duw wedi anghofio trugarhau?A yw yn ei lid wedi cloi ei dosturi?”Sela

10. Yna dywedais, “Hyn yw fy ngofid:A yw deheulaw'r Goruchaf wedi pallu?”

11. “Galwaf i gof weithredoedd yr ARGLWYDD,a chofio am dy ryfeddodau gynt.

12. Meddyliaf am dy holl waith,a myfyriaf am dy weithredoedd.

13. O Dduw, sanctaidd yw dy ffordd;pa dduw sydd fawr fel ein Duw ni?

Darllenwch bennod gyflawn Y Salmau 77