Hen Destament

Testament Newydd

Y Salmau 76:2-7 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

2. y mae ei babell wedi ei gosod yn Salem,a'i gartref yn Seion.

3. Yno fe faluriodd y saethau tanllyd,y darian, y cleddyf a'r arfau rhyfel.Sela

4. Ofnadwy wyt ti, a chryfachna'r mynyddoedd tragwyddol.

5. Ysbeiliwyd y rhai cryf o galon,y maent wedi suddo i gwsg,a phallodd nerth yr holl ryfelwyr.

6. Gan dy gerydd di, O Dduw Jacob,syfrdanwyd y marchog a'r march.

7. Ofnadwy wyt ti. Pwy a all sefyll o'th flaenpan fyddi'n ddig?

Darllenwch bennod gyflawn Y Salmau 76