7. Rhoesant dy gysegr ar dân,a halogi'n llwyr breswylfod dy enw.
8. Dywedasant ynddynt eu hunain, “Difodwn hwy i gyd”;llosgasant holl gysegrau Duw trwy'r tir.
9. Ni welwn arwyddion i ni, nid oes proffwyd mwyach;ac nid oes yn ein plith un a ŵyr am ba hyd.
10. Am ba hyd, O Dduw, y gwawdia'r gwrthwynebwr?A yw'r gelyn i ddifrïo dy enw am byth?
11. Pam yr wyt yn atal dy law,ac yn cuddio dy ddeheulaw yn dy fynwes?
12. Ond ti, O Dduw, yw fy mrenin erioed,yn gweithio iachawdwriaeth ar y ddaear.
13. Ti, â'th nerth, a rannodd y môr,torraist bennau'r dreigiau yn y dyfroedd.
14. Ti a ddrylliodd bennau Lefiathan,a'i roi'n fwyd i fwystfilod y môr.
15. Ti a agorodd ffynhonnau ac afonydd, a sychu'r dyfroedd di-baid.
16. Eiddot ti yw dydd a nos,ti a sefydlodd oleuni a haul.
17. Ti a osododd holl derfynau daear,ti a drefnodd haf a gaeaf.
18. Cofia, O ARGLWYDD, fel y mae'r gelyn yn gwawdio,a phobl ynfyd yn difrïo dy enw.