Hen Destament

Testament Newydd

Y Salmau 74:4-10 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

4. Rhuodd dy elynion yng nghanol dy gysegr,a gosod eu harwyddion eu hunain yn arwyddion yno.

5. Y maent wedi malurio, fel coedwigwyryn chwifio'u bwyeill mewn llwyn o goed.

6. Rhwygasant yr holl waith cerfiediga'i falu â bwyeill a morthwylion.

7. Rhoesant dy gysegr ar dân,a halogi'n llwyr breswylfod dy enw.

8. Dywedasant ynddynt eu hunain, “Difodwn hwy i gyd”;llosgasant holl gysegrau Duw trwy'r tir.

9. Ni welwn arwyddion i ni, nid oes proffwyd mwyach;ac nid oes yn ein plith un a ŵyr am ba hyd.

10. Am ba hyd, O Dduw, y gwawdia'r gwrthwynebwr?A yw'r gelyn i ddifrïo dy enw am byth?

Darllenwch bennod gyflawn Y Salmau 74