Hen Destament

Testament Newydd

Y Salmau 74:1-4 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

1. Pam, Dduw, y bwriaist ni ymaith am byth?Pam y myga dy ddigofaint yn erbyn defaid dy borfa?

2. Cofia dy gynulleidfa a brynaist gynt,y llwyth a waredaist yn etifeddiaeth iti,a Mynydd Seion lle'r oeddit yn trigo.

3. Cyfeiria dy draed at yr adfeilion bythol;dinistriodd y gelyn bopeth yn y cysegr.

4. Rhuodd dy elynion yng nghanol dy gysegr,a gosod eu harwyddion eu hunain yn arwyddion yno.

Darllenwch bennod gyflawn Y Salmau 74