Hen Destament

Testament Newydd

Y Salmau 73:24-28 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

24. Yr wyt yn fy arwain â'th gyngor,ac yna'n fy nerbyn mewn gogoniant.

25. Pwy sydd gennyf yn y nefoedd ond ti?Ac nid wyf yn dymuno ond tydi ar y ddaear.

26. Er i'm calon a'm cnawd ballu,eto y mae Duw yn gryfder i'm calon ac yn rhan imi am byth.

27. Yn wir, fe ddifethir y rhai sy'n bell oddi wrthyt,a byddi'n dinistrio'r rhai sy'n anffyddlon i ti.

28. Ond da i mi yw bod yn agos at Dduw;yr wyf wedi gwneud yr Arglwydd DDUW yn gysgod i mi,er mwyn imi fynegi dy ryfeddodau.

Darllenwch bennod gyflawn Y Salmau 73