Hen Destament

Testament Newydd

Y Salmau 7:7-17 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

7. Bydded i'r bobloedd ymgynnull o'th amgylch;eistedd dithau'n oruchel uwch eu pennau.

8. O ARGLWYDD, sy'n barnu pobloedd,barna fi yn ôl fy nghyfiawnder, O ARGLWYDD,ac yn ôl y cywirdeb sydd ynof.

9. Bydded diwedd ar ddrygioni'r drygionus,ond cadarnha di y cyfiawn,ti sy'n profi meddyliau a chalonnau,ti Dduw cyfiawn.

10. Duw yw fy nharian,ef sy'n gwaredu'r cywir o galon.

11. Duw sydd farnwr cyfiawn,a Duw sy'n dedfrydu bob amser.

12. Yn wir, y mae'r drygionus yn hogi ei gleddyf eto,yn plygu ei fwa ac yn ei wneud yn barod;

13. y mae'n darparu ei arfau marwol,ac yn gwneud ei saethau'n danllyd.

14. Y mae'n feichiog o ddrygioni,yn cenhedlu niwed ac yn geni twyll.

15. Y mae'n cloddio pwll ac yn ei geibio,ac yn syrthio i'r twll a wnaeth.

16. Fe ddychwel ei niwed arno ef ei hun,ac ar ei ben ef y disgyn ei drais.

17. Diolchaf i'r ARGLWYDD am ei gyfiawnder,a chanaf fawl i enw'r ARGLWYDD Goruchaf.

Darllenwch bennod gyflawn Y Salmau 7