Hen Destament

Testament Newydd

Y Salmau 7:6-9 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

6. Saf i fyny, O ARGLWYDD, yn dy ddig;cyfod yn erbyn llid fy ngelynion;deffro, fy Nuw, i drefnu barn.

7. Bydded i'r bobloedd ymgynnull o'th amgylch;eistedd dithau'n oruchel uwch eu pennau.

8. O ARGLWYDD, sy'n barnu pobloedd,barna fi yn ôl fy nghyfiawnder, O ARGLWYDD,ac yn ôl y cywirdeb sydd ynof.

9. Bydded diwedd ar ddrygioni'r drygionus,ond cadarnha di y cyfiawn,ti sy'n profi meddyliau a chalonnau,ti Dduw cyfiawn.

Darllenwch bennod gyflawn Y Salmau 7