4. os telais ddrwg am dda i'm cyfaill,ac ysbeilio fy ngwrthwynebwr heb achos—
5. bydded i'm gelyn fy erlid a'm dal,bydded iddo sathru fy einioes i'r ddaear,a gosod f'anrhydedd yn y llwch.Sela
6. Saf i fyny, O ARGLWYDD, yn dy ddig;cyfod yn erbyn llid fy ngelynion;deffro, fy Nuw, i drefnu barn.
7. Bydded i'r bobloedd ymgynnull o'th amgylch;eistedd dithau'n oruchel uwch eu pennau.
8. O ARGLWYDD, sy'n barnu pobloedd,barna fi yn ôl fy nghyfiawnder, O ARGLWYDD,ac yn ôl y cywirdeb sydd ynof.
9. Bydded diwedd ar ddrygioni'r drygionus,ond cadarnha di y cyfiawn,ti sy'n profi meddyliau a chalonnau,ti Dduw cyfiawn.
10. Duw yw fy nharian,ef sy'n gwaredu'r cywir o galon.
11. Duw sydd farnwr cyfiawn,a Duw sy'n dedfrydu bob amser.
12. Yn wir, y mae'r drygionus yn hogi ei gleddyf eto,yn plygu ei fwa ac yn ei wneud yn barod;
13. y mae'n darparu ei arfau marwol,ac yn gwneud ei saethau'n danllyd.