Hen Destament

Testament Newydd

Y Salmau 7:1-5 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

1. O ARGLWYDD fy Nuw, ynot ti y llochesaf;gwared fi rhag fy holl erlidwyr, ac arbed fi,

2. rhag iddynt fy llarpio fel llew,a'm darnio heb neb i'm gwaredu.

3. O ARGLWYDD fy Nuw, os gwneuthum hyn—os oes twyll ar fy nwylo,

4. os telais ddrwg am dda i'm cyfaill,ac ysbeilio fy ngwrthwynebwr heb achos—

5. bydded i'm gelyn fy erlid a'm dal,bydded iddo sathru fy einioes i'r ddaear,a gosod f'anrhydedd yn y llwch.Sela

Darllenwch bennod gyflawn Y Salmau 7