Hen Destament

Testament Newydd

Y Salmau 69:6-13 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

6. Na fydded i'r rhai sy'n gobeithio ynot gael eu cywilyddio o'm plegid,O Arglwydd DDUW y Lluoedd,nac i'r rhai sy'n dy geisio gael eu gwaradwyddo o'm hachos,O Dduw Israel.

7. Oherwydd er dy fwyn di y dygais warth,ac y mae fy wyneb wedi ei orchuddio â chywilydd.

8. Euthum yn ddieithryn i'm brodyr,ac yn estron i blant fy mam.

9. Y mae sêl dy dŷ di wedi fy ysu,a daeth gwaradwydd y rhai sy'n dy waradwyddo di arnaf finnau.

10. Pan wylaf wrth ymprydio,fe'i hystyrir yn waradwydd i mi;

11. pan wisgaf sachliain amdanaf,fe'm gwneir yn ddihareb iddynt.

12. Y mae'r rhai sy'n eistedd wrth y porth yn siarad amdanaf,ac yr wyf yn destun i watwar y meddwon.

13. Ond daw fy ngweddi i atat, O ARGLWYDD.Ar yr amser priodol, O Dduw,ateb fi yn dy gariad mawrgyda'th waredigaeth sicr.

Darllenwch bennod gyflawn Y Salmau 69