Hen Destament

Testament Newydd

Y Salmau 69:10-22 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

10. Pan wylaf wrth ymprydio,fe'i hystyrir yn waradwydd i mi;

11. pan wisgaf sachliain amdanaf,fe'm gwneir yn ddihareb iddynt.

12. Y mae'r rhai sy'n eistedd wrth y porth yn siarad amdanaf,ac yr wyf yn destun i watwar y meddwon.

13. Ond daw fy ngweddi i atat, O ARGLWYDD.Ar yr amser priodol, O Dduw,ateb fi yn dy gariad mawrgyda'th waredigaeth sicr.

14. Gwared fi o'r llaid rhag imi suddo,achuber fi o'r mwd ac o'r dyfroedd dyfnion.

15. Na fydded i'r llifogydd fy sgubo ymaith,na'r dyfnder fy llyncu,na'r pwll gau ei safn amdanaf.

16. Ateb fi, ARGLWYDD, oherwydd da yw dy gariad;yn dy drugaredd mawr, tro ataf.

17. Paid â chuddio dy wyneb oddi wrth dy was;y mae'n gyfyng arnaf, brysia i'm hateb.

18. Tyrd yn nes ataf i'm gwaredu;rhyddha fi o achos fy ngelynion.

19. Fe wyddost ti fy ngwaradwydd,fy ngwarth a'm cywilydd;yr wyt yn gyfarwydd â'm holl elynion.

20. Y mae gwarth wedi torri fy nghalon,ac yr wyf mewn anobaith;disgwyliais am dosturi, ond heb ei gael,ac am rai i'm cysuro, ond nis cefais.

21. Rhoesant wenwyn yn fy mwyd,a gwneud imi yfed finegr at fy syched.

22. Bydded eu bwrdd eu hunain yn rhwyd iddynt,yn fagl i'w cyfeillion.

Darllenwch bennod gyflawn Y Salmau 69