Hen Destament

Testament Newydd

Y Salmau 68:31-35 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

31. Bydded iddynt ddod â phres o'r Aifft;brysied Ethiopia i estyn ei dwylo at Dduw.

32. Canwch i Dduw, deyrnasoedd y ddaear;rhowch foliant i'r Arglwydd,Sela

33. i'r un sy'n marchogaeth yn y nefoedd, y nefoedd a fu erioed.Clywch! Y mae'n llefaru â'i lais nerthol.

34. Cydnabyddwch nerth Duw;y mae ei ogoniant uwchben Israela'i rym yn y ffurfafen.

35. Y mae Duw yn arswydus yn ei gysegr;y mae Duw Israel yn rhoi ynni a nerth i'w bobl.Bendigedig fyddo Duw.

Darllenwch bennod gyflawn Y Salmau 68