24. Gwelir dy orymdeithiau, O Dduw,gorymdeithiau fy Nuw, fy Mrenin, i'r cysegr—
25. y cantorion ar y blaen a'r offerynwyr yn dilyn,a rhyngddynt forynion yn canu tympanau.
26. Yn y gynulleidfa y maent yn bendithio Duw,a'r ARGLWYDD yng nghynulliad Israel.
27. Yno y mae Benjamin fychan yn eu harwain,a thyrfa tywysogion Jwda,tywysogion Sabulon a thywysogion Nafftali.
28. O Dduw, dangos dy rym,y grym, O Dduw, y buost yn ei weithredu drosom.
29. O achos dy deml yn Jerwsalemdaw brenhinoedd ag anrhegion i ti.
30. Cerydda anifeiliaid gwyllt y corsydd,y gyr o deirw gyda'u lloi o bobl;sathra i lawr y rhai sy'n dyheu am arian,gwasgara'r bobl sy'n ymhyfrydu mewn rhyfel.