Hen Destament

Testament Newydd

Y Salmau 68:20-31 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

20. Duw sy'n gwaredu yw ein Duw ni;gan yr ARGLWYDD Dduw y mae dihangfa rhag marwolaeth.

21. Yn wir, bydd Duw'n dryllio pennau ei elynion,pob copa gwalltog, pob un sy'n rhodio mewn euogrwydd.

22. Dywedodd yr Arglwydd, “Dof â hwy'n ôl o Basan,dof â hwy'n ôl o waelodion y môr,

23. er mwyn iti drochi dy droed mewn gwaed,ac i dafodau dy gŵn gael eu cyfran o'r gelynion.”

24. Gwelir dy orymdeithiau, O Dduw,gorymdeithiau fy Nuw, fy Mrenin, i'r cysegr—

25. y cantorion ar y blaen a'r offerynwyr yn dilyn,a rhyngddynt forynion yn canu tympanau.

26. Yn y gynulleidfa y maent yn bendithio Duw,a'r ARGLWYDD yng nghynulliad Israel.

27. Yno y mae Benjamin fychan yn eu harwain,a thyrfa tywysogion Jwda,tywysogion Sabulon a thywysogion Nafftali.

28. O Dduw, dangos dy rym,y grym, O Dduw, y buost yn ei weithredu drosom.

29. O achos dy deml yn Jerwsalemdaw brenhinoedd ag anrhegion i ti.

30. Cerydda anifeiliaid gwyllt y corsydd,y gyr o deirw gyda'u lloi o bobl;sathra i lawr y rhai sy'n dyheu am arian,gwasgara'r bobl sy'n ymhyfrydu mewn rhyfel.

31. Bydded iddynt ddod â phres o'r Aifft;brysied Ethiopia i estyn ei dwylo at Dduw.

Darllenwch bennod gyflawn Y Salmau 68