Hen Destament

Testament Newydd

Y Salmau 68:10-23 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

10. cafodd dy braidd le i fyw ynddi,ac yn dy ddaioni darperaist i'r anghenus, O Dduw.

11. Y mae'r Arglwydd yn datgan y gair,ac y mae llu mawr yn cyhoeddi'r newydd da

12. fod brenhinoedd y byddinoedd yn ffoi ar frys;y mae'r merched gartref yn rhannu ysbail—

13. er eu bod wedi aros ymysg y corlannau—y mae adenydd colomen wedi eu gorchuddio ag arian,a'i hesgyll yn aur melyn.

14. Pan wasgarodd yr Hollalluog frenhinoedd yno,yr oedd yn eira ar Fynydd Salmon.

15. Mynydd cadarn yw Mynydd Basan,mynydd o gopaon yw Mynydd Basan.

16. O fynydd y copaon, pam yr edrychi'n eiddigeddusar y mynydd lle dewisodd Duw drigo,lle bydd yr ARGLWYDD yn trigo am byth?

17. Yr oedd cerbydau Duw yn ugain mil,yn filoedd ar filoedd,pan ddaeth yr Arglwydd o Sinai mewn sancteiddrwydd.

18. Aethost i fyny i'r uchelder gyda chaethion ar dy ôl,a derbyniaist anrhegion gan bobl,hyd yn oed gwrthryfelwyr,er mwyn i'r ARGLWYDD Dduw drigo yno.

19. Bendigedig yw'r Arglwydd,sy'n ein cario ddydd ar ôl dydd;Duw yw ein hiachawdwriaeth.Sela

20. Duw sy'n gwaredu yw ein Duw ni;gan yr ARGLWYDD Dduw y mae dihangfa rhag marwolaeth.

21. Yn wir, bydd Duw'n dryllio pennau ei elynion,pob copa gwalltog, pob un sy'n rhodio mewn euogrwydd.

22. Dywedodd yr Arglwydd, “Dof â hwy'n ôl o Basan,dof â hwy'n ôl o waelodion y môr,

23. er mwyn iti drochi dy droed mewn gwaed,ac i dafodau dy gŵn gael eu cyfran o'r gelynion.”

Darllenwch bennod gyflawn Y Salmau 68